Ein Pobl

Pwrpas Staff y Senedd yw cefnogi'r Senedd i sicrhau ei fod yn gweithredu’n llwyddiannus fel corff democrataidd.

Mae’n gweithredu dan gyfarwyddyd a chyfeiriad y Llywydd a phedwar Aelod o'r Senedd arall sy’n cynrychioli’r pleidiau gwleidyddol eraill. Caiff gweithrediadau o ddydd i ddydd eu dirprwyo i Glerc a Phrif Weithredwr y Senedd.

Mae hyn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau yn cynnwys:

  • Darparu swyddfeydd, cyfleusterau, cyfarpar a gwybodaeth y mae eu hangen ar Aelodau’r Senedd i wneud eu gwaith;
  • Cefnogi Pwyllgorau’r Senedd a’r Cyfarfod Llawn drwy roi cyngor ar weithdrefnau, cyngor cyfreithiol a chyngor arall;
  • Darparu gwasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a gwasanaethau cofnodi sy’n sicrhau y gall y Senedd weithredu yn Gymraeg a Saesneg;
  • Darparu gwybodaeth ac addysg am y Senedd i’r cyhoedd; a
  • Darparu gwybodaeth ac addysg i’r cyhoedd am rôl seneddol y Senedd a thrwy drefnu ymweliadau â’r Senedd ac oddi yno.

Nid gweision sifil yw staff y Senedd. Maent yn annibynnol o’r Llywodraeth a gweithredant yn ddiduedd ar ran y Senedd.

Swyddi yng Nghomisiwn y Senedd

Mae Comisiwn y Senedd yn cyflogi oddeutu 500 o staff sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cefnogi i’r 60 Aelod o'r Senedd. Rydym yn cyflogi pobl sydd ag ystod eang o ddoniau mewn meysydd fel:

Sylwadau gan ein staff